RCAC breaks new ground working with the police and justice services, in improving relations with GRT communities

The Romani Cultural & Arts Co. is pleased to be working in partnership with the Gypsy, Roma, Traveller Police Association, established in 2014, to deliver a ground-breaking training workshop for members of the police, prison and probation services and from the justice system, such as local magistrates and court officers, aimed at improving relations and communication with the Gypsy, Roma, Traveller communities in Wales and across the UK. The workshop will be taking place in Cardiff, south Wales and is the first of a series that will be part of a process of developing materials for use by police and justice services in a national and international modular training programme, supported by the Open Society Foundations Initiative for Europe anti-Gypsyism projects.

The grant to the GRT PA from OSIfE, is to develop a modular training package that will become part of national police training programmes in the future, with a final version rolled out after January 2016. June’s training workshop will pilot the first of a series of modules, testing the content and delivery in a training setting with front-line officers, magistrates, court officers and others to ensure that these materials are fit for purpose. “It’s extremely important the training packages meet the actual needs of police officers and others in the justice systems, rather than being designed in the abstract”, says Dr Adrian Marsh, the consultant and lead trainer in the project. “Too often, this kind of approach means that materials are developed that reflect interests and information that show how knowledgeable the writers and trainers are, without meeting the actual needs of those participating in training. Our project aims at testing materials in action and being able and willing to listen closely to the responses from experienced and knowledgeable participants who are themselves practitioners in their fields. If they say something works well for them, we know it is useful; it it doesn’t, we have to change it until it does.” This development and consultation will mean that a number of focus groups, workshops and online surveys will have contributed to the final package, before it is delivered nationwide.

Uniquely for this kind of training, RCAC will support the workshops with Community Champions, members of the GRT communities who have participated in projects and activities over the previous years and representative ‘voices’ from Gypsy, Roma, Traveller perspectives. Jamie James, one of the Community Champions says, “We have been working with Isaac and the RCAC to carry out arts workshops with children on sites, support national conferences and seminars, advocate with members of the Welsh Assembly and deliver training around self-empowerment for Romani and Traveller women. The prospect of working to improve police and justice systems relationships with our communities, through being involved in delivering this kind of training is an important one, challenging the negative views and stereotypes that exist in these services is really important to having our rights recognised, as ordinary citizens and decent people.”

Jim Davies, Chairperson of the GRT PA and a serving police officer in Thames Valley Police, has said that the “GRT PA is working hard to change the relationship between GRT communities and the police, it is a priority for us. It is really important that we can better support officers in the field who have direct and immediate contact with Romani and Traveller people and that we improve the ways we work, through building better understanding between those of us who we are Romani and Travellers, whether as police officers from the communities serving in various police forces around the country, or as community members who are entitled to an improved service that the police can provide, through addressing those obstacles that stop that happening now.” Tracey Chaney, from Humberside Police and a member of the GRT PA Executive Committee says, “It is paramount that these members of staff have a good understanding of our culture in order to offer correct and responsible responses to callers [from the GRT communities]…” The Vice Chairperson of the GRT PA EC, Petr Torak has recently been awarded an MBE for his work in reaching out to Romani communities and reaching into the police services around the country, to build better understanding and communication between these two groups. A Czech Roma in origin, Petr has worked hard to overcome the prejudice he experienced in his homeland and sometimes in the UK police service itself, and towards Roma, Gypsies and Travellers. Making a difference is what is most important to him, as his recent award shows.

Isaac Blake, the Director of the RCAC agrees, “It’s especially important to take into account the views and experiences of those in the GRT communities, when it comes to dealing with the police. Their reactions to seeing armed police officers turning up on sites and carrying out rough and ready searches, with little evidence and a lot of suspicion, hasn’t done much to build trust and confidence in the police or the justice services. Many Romani and Traveller people feel that there is one law for them and another for the ‘gorgios’, or non-Romani majority.” His support for the GRT PA project is very important in changing this view he says, “Unless we can address these issues, and build a dialogue between the police, prison officers, probation officers and GRT communities, nothing will change and there will be no difference for our children or grandchildren in the future. RCAC is very pleased to be working with the [GRT] Police Association on this important project, as it will make a difference to that bleak picture.”

“The real difference is already there,” says Dr Marsh, “as it is clear that Gypsy, Roma and Traveller people are actually officers in the police and probably other services as well. People are taken aback when they discover that a professional association exists with Gypsy, Roma, Traveller police officers, they think that they have misheard. It’s like the idea of Romani urban planners, doctors, lawyers and architects, such things are at odds with people’s preconceptions. The change happening in front of their eyes is still one that they have trouble understanding, recognising as going on. We even have MEP’s – Soraya Post and James Carver for example – and yet people still find it difficult to accept that we are not just musicians and dancers, beggars and fortune-tellers. One day soon, we will have Romani judges and magistrates, lawmakers and chief constables, just as we already have barristers and lawyers from Romani communities. This project brings that day a little closer…”

————————————————————

“Cwmni Diwylliannau a Chelfyddydau Romani yn torri tir newydd gyda’r heddlu a’r gwasanaethau cyfiawnder, trwy wella’r cysylltiadau â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr”

Mae’n bleser gan y Cwmni Diwylliannau a Chelfyddydau Romani fod yn gweithio gyda Chymdeithas Heddlu sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a sefydlwyd yn 2014, i gynnig gweithdy hyfforddiant arloesol i aelodau’r heddlu a gwasanaethau carchardai a phrofiannaeth ac o’r system gyfiawnder, megis llysoedd ynadon a swyddogion llys lleol. Nod y gweithdy yw gwella’r cysylltiadau a’r dulliau o gyfathrebu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Nghymru a ledled y DU. Cynhelir y gweithdy yng Nghaerdydd, a dyma’r cyntaf o blith cyfres o weithdai a fydd yn rhan o’r broses o baratoi deunyddiau i’w defnyddio gan yr heddlu a gwasanaethau cyfiawnder mewn rhaglen hyfforddiant fodwlar genedlaethol a rhyngwladol. Cefnogir y project hwn gan Fenter y Sefydliad Cymdeithas Agored ar gyfer projectau gwrth-Sipsi Ewropeaidd.

Mae’r gymdeithas wedi cael grant gan Gymdeithas Menter Cymdeithas Agored Ewrop i lunio rhaglen hyfforddiant fodwlar a fydd yn dod yn rhan o raglenni hyfforddiant yr heddlu yn y dyfodol, a chaiff y fersiwn derfynol ei chyflwyno ar ôl mis Ionawr 2016.  Bydd y gweithdy hyfforddiant ym mis Mehefin yn treialu’r cyntaf o gyfres o fodiwlau, gan roi’r cynnwys a’r dull cyflwyno ar brawf mewn sesiwn hyfforddiant gyda swyddogion rheng flaen, ynadon, swyddogion llysoedd ac eraill i sicrhau bod y deunyddiau hyn yn addas at y diben. “Mae’n bwysig iawn fod y rhaglenni hyfforddiant yn diwallu gwir anghenion yr heddlu ac eraill yn y system gyfiawnder, yn hytrach na bod yn rhaglenni a luniwyd yn haniaethol”, dywedodd Dr Adrian Marsh, ymgynghorydd allanol a phrif hyfforddwr y project. “Yn rhy aml, caiff deunyddiau eu llunio mewn dull sy’n adlewyrchu diddordebau a gwybodaeth yr awduron a hyfforddwyr, a pha mor wybodus ydynt, heb ddiwallu gwir anghenion y rhai sy’n cael eu hyfforddi. Nod ein project ni yw rhoi deunyddiau ar brawf mewn sefyllfaoedd go iawn a bod yn barod i wrando ar yr ymatebion a gawn gan gyfranogwyr profiadol a gwybodus, sydd eu hunain yn ymarferwyr yn eu maes. Os byddant yn dweud bod rhywbeth yn gweithio’n dda, yna byddwn yn gwybod ei fod yn ddefnyddiol; ond os nad yw rhai elfennau yn gweithio cystal, mae’n rhaid i ni eu newid nes gallwn sicrhau eu bod o fudd.” Bydd y datblygiad a’r ymgynghoriad hwn yn golygu y bydd nifer o grwpiau ffocws, gweithdai ac arolygon ar-lein wedi cyfrannu at y rhaglen derfynol, cyn iddi gael ei chyflwyno ledled y DU.

Yn unigryw ar gyfer y math hwn o hyfforddiant, bydd Cwmni Diwylliannau a Chelfyddydau Romani yn anfon Hyrwyddwyr Cymunedol i’r gweithdai, sef aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn projectau a gweithgareddau ac wedi rhoi ‘llais’ i bersbectif Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Dywed Jamie James, un o’r Hyrwyddwyr Cymunedol, “Rydym wedi bod yn gweithio gydag Isaac a’r Cwmni i gynnal gweithdai celfyddydol gyda phlant ar safleoedd, cefnogi cynadleddau a seminarau cenedlaethol, eirioli gydag aelodau o Lywodraeth Cymru a chyflwyno hyfforddiant hunan-rymuso i ferched Romani a Theithwyr.  Mae cael y cyfle i weithio i wella’r berthynas rhwng yr heddlu a systemau cyfiawnder gyda’n cymunedau, drwy gyfrannu at y math hwn o hyfforddiant, yn bwysig dros ben, gan fod herio’r agweddau negyddol a stereoteipiau sy’n bodoli yn y gwasanaethau hyn o’r pwys mwyaf o ran cael cydnabod ein hawliau, fel dinasyddion a phobl barchus.”

Dywedodd Jim Davies, Cadeirydd Cymdeithas Sipsiwn, Roma a Theithwyr yr Heddlu a phlismon gyda Heddlu Dyffryn Tafwys, “Mae’r gymdeithas yn gweithio’n galed i newid y berthynas rhwng cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr â’r heddlu, mae’n flaenoriaeth i ni. Mae’n bwysig dros ben ein bod yn gallu rhoi cefnogaeth well i swyddogion yn y maes sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â phobl Romani a Theithwyr ac ein bod yn gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio.  Mae hyn yn angenrheidiol i feithrin dealltwriaeth well rhyngom ni a’r rheiny sy’n dod o gymunedau Romani a Theithwyr, boed hynny fel heddluoedd sy’n gweithio â chymunedau ledled y wlad, neu fel aelodau o’r gymuned sydd â’r hawl i ddisgwyl y gwasanaeth y gall yr heddlu ei ddarparu, drwy fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n bodoli ar hyn o bryd. Dywedodd Tracey Chaney, o Heddlu Humberside ac aelod o Bwyllgor Gweithredol Cymdeithasu Heddluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, “Mae’n bwysig fod gan y staff ddealltwriaeth dda o’n diwylliant fel gallant gynnig yr ymatebion priodol a chyfrifol i’r rheiny sy’n cysylltu â ni [o gymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr]…  Yn ddiweddar dyfarnwyd MBE i Petr Torak, Is-gadeirydd y Gymdeithas, am ei waith yn cysylltu â chymunedau Romani a heddluoedd ledled y wlad, i feithrin gwell dealltwriaeth a chysylltiadau rhwng y naill grŵp a’r llall. Gyda’i wreiddiau Roma Tsiec, mae Petr wedi gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r rhagfarn y mae wedi ei weld yn ei wlad enedigol, ac weithiau yng ngwasanaeth heddlu y DU ei hun, a thuag at Roma, Sipsiwn a Theithwyr. Gwneud gwahaniaeth sydd bwysicaf iddo ef, ac mae ei wobr ddiweddar yn brawf o hynny.

Mae Isaac Blake, cyfarwyddwr Cwmni Diwylliannau a Chelfyddydau Romani yn cytuno, “Mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi ystyriaeth i safbwyntiau a phrofiadau’r rheiny sy’n aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, wrth iddynt ddelio â’r heddlu. Nid yw eu hymateb i weld heddlu arfog yn dod i safleoedd ac yn cynnal chwiliadau ffwrdd a hi, heb fawr o dystiolaeth a llawer iawn o amheuaeth, wedi gwneud llawer i feithrin ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu neu’r gwasanaethau cyfiawnder. Mae llawer o bobl Romani a Theithwyr yn teimlo bod un gyfraith iddyn nhw ac un arall i’r ‘giorgios’, neu’r mwyafrif nad ydynt yn dod o gymunedau Romani. Mae ei gefnogaeth i broject yr Heddlu yn bwysig o ran newid y farn hon, “Oni bai ein bod yn gallu mynd i’r afael â’r materion hyn, a sbarduno trafodaeth gyda’r heddlu, swyddogion carchardai, swyddogion profiannaeth a chymunedau Sipsiwn, Romani a Theithwyr, yr un fydd y sefyllfa fydd yn wynebu ein plant a’n hwyrion yn y dyfodol. Mae’n bleser gan y Cwmni Diwylliannau a Chelfyddydau Romani gydweithio â Chymdeithas yr Heddlu ar y project pwysig hwn, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r darlun llwm hwnnw.

“Mae’r gwahaniaeth eisoes i’w weld,” meddai Dr Marsh, “gan ei bod yn amlwg fod pobl sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gweithio fel swyddogion yn yr heddlu ac o bosib mewn gwasanaethau eraill yn ogystal. Mae pobl yn synnu o glywed bod cymdeithas broffesiynol yn cynnwys swyddogion heddlu sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr i’w chael, maent yn meddwl eu bod wedi camddeall.  Mae’n debyg iawn i’r syniad o gael cynllunwyr trefol, meddygon, cyfreithwyr a phenseiri Romani, mae’n mynd yn groes i ragdybiaethau pobl. Mae’r newid sy’n digwydd o flaen eu llygaid yn un y maent yn ei chael yn anodd ei ddeall, a chydnabod ei fod yn digwydd. Mae gennym hyd yn oed ASEau – Soraya Post a James Carver, er enghraifft, – ac eto mae pobl yn dal yn ei chael yn anodd derbyn nad dim ond cerddorion a dawnswyr, cardotwyr a merched a dynion dweud ffortiwn ydym. Rhyw ddiwrnod cyn bo hir, bydd gennym farnwyr ac ynadon, deddfwyr a phrif gwnstabliaid Romani, yn union fel y bargyfreithwyr a’r cyfreithwyr o gymunedau Romani sydd gennym eisoes.  Mae’r project hwn yn golygu bod y diwrnod hwnnw’n nesáu..”

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.