Gypsy, Roma & Traveller Arts & Culture National Symposium II

Delivered through the medium of English

Taliesin Arts Centre

Swansea University, Singleton Park, Swansea SA2 8PZ

Friday 20 January 2017 – 9.30am – 1.30pm

The Romani Cultural & Arts Company is pleased to announce the Gypsy, Roma & Traveller Arts & Culture National Symposium II. The event, hosted by Taliesin Arts Centre, will feature artists Artur Conka and Billy Kerry plus guests including Rosamaria Kostic Cisneros, professional dancer, dance historian, critic, and Roma scholar of Coventry University and Isabel Raabe, co-founder together with Franziska Sauerbrey of the office for cultural affairs in Berlin who are also the instigators and coordinators of the international project RomArchive: Digital Archive of the Roma. This varied range of speakers with their diverse areas of expertise will stimulate conversation amongst the audience regarding the contemporary climate of GRT arts and the wider implications for society.

This exciting event will take place in the context of the Gypsy Maker 2 project; the unique RCAC venture that facilitates the development of innovative works by established and emerging GRT artists. The project aims to stimulate dialogue across communities about the ways in which art continues to inform the lives of individuals and communities today. For this second phase of the project the RCAC has commissioned exhibitions of new work by Artur Conka, Roma, and Billy Kerry, Romani Gypsy. Examples of both artists’ work will be on display in Taliesin’s Oriel Ceri Richards Gallery space during the symposium.

“The arts bring enjoyment and inspiration to our everyday lives.  Taking part in the arts, whether as an individual or a member of a community, helps bind us together in a celebration of our common humanity.  But the arts can also help us to understand what is distinctive and important to protect in the differences that define us all.  The arts help us to explore and express the things we have in common and our place in the world.  A fair-minded and tolerant society values and respects the needs, interests and creativity of everybody.  It’s a society that’s impatient of disadvantage, which embraces equality and celebrates diversity.  We want the arts in Wales to include everyone.  We know this will make the arts in Wales more vibrant, exciting and relevant.  We warmly welcome the contribution that this second Gypsy, Roma & Traveller Arts & Culture National Symposium will make to that debate.” Nick Capaldi, Chief Executive Arts Council of Wales

“I’m delighted that Taliesin is hosting the 2017 symposium and helping to break down the ignorance and prejudice that persists about GRT communities. Artists are again at the forefront of busting stereotypes and bringing light and understanding to what remains a serious problem in our society “–Sybil Crouch, Head of Cultural Services, Taliesin Arts Centre

‘As representatives of an international project that itself seeks to break down prejudices through promoting culture and the arts, we are convinced that Gypsy Maker 2 will play an important for the recognition and appreciation of Gypsy, Roma and Traveller culture—a culture that is centuries old, most lively and varied to this day.’  Isabel Raabe and Franziska Sauerbrey, Project Initiators and Directors of RomArchive – Digital Archive of the Roma

We anticipate that this exciting half-day symposium and exhibition showcase will generate great interest so please book your place early by writing to The Romani Cultural & Arts Company at: isaacblake@romaniarts.co.uk

Please download any of the resources and day’s materials below: Gypsy, Roma & Traveller Arts & Culture National Symposium II Delegate Guide

Gypsy, Roma & Traveller Arts & Culture National Symposium II Booking Form

The Gypsy Roma Traveller Arts Culture National Symposium II English press release

The Gypsy Roma Traveller Arts Culture National Symposium II Welsh press release

Press coverage notably from (Arts Council of Wales, National Association of Teachers of Travellers +Other Professionals, Powys Association of Voluntary Organisations, Creatives Cotland, Dance City, ACERT, Cardiff Third Sector Council, Wales Council for Voluntary Action, Voluntary Arts, Travellers’ Times, Swansea Council for Voluntary Service, Arts & Health South West, Friends, Families and Travellers, The National Federation of Gypsy Liaison Groups, Literature Wales, Taliesin Arts Centre, Holocaust Memorial Day Trust, Travelling Ahead)

The Romani Cultural and Arts Company is not responsible for the content of external Internet sites.

————————————————————

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Ail Symposiwm Cenedlaethol Celfyddydau a Diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Canolfan y Celfyddydau Taliesin

Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP – Dydd Gwener 20 Ionawr 2017 – 9.30am tan 1.30pm

Mae’r Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani (RCAC) yn falch o gyhoeddi Ail Symposiwm Cenedlaethol Celfyddydau a Diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan Ganolfan y Celfyddydau Taliesin, yn cynnwys yr artistiaid Artur Conka a Billy Kerry ynghyd â gwestai gan gynnwys Rosamaria Kostic Cisneros, dawnswraig broffesiynol, hanesydd dawns, adolygydd, ac ysgolhaig Roma o Brifysgol Coventry ac Isabel Raabe, cyd-sefydlwr gyda Franziska Sauerbrey o’r swyddfa materion diwylliannol ym Merlin sydd hefyd yn anogwyr a chydlynwyr y prosiect rhyngwladol RomArchive: Digital Archive of the Roma. Bydd yr ystod amrywiol hon o siaradwyr sydd ag amrywiaeth o feysydd arbenigedd yn ysgogi sgyrsiau ymhlith y gynulleidfa parthed hinsawdd gyfoes celfyddydau’r Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’r goblygiadau ehangach ar gymdeithas.

Cynhelir y digwyddiad cyffrous hwn yng nghyd-destun prosiect Gypsy Maker 2; sef y fenter RCAC unigryw sy’n hwyluso datblygu gwaith arloesol gan artistiaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd wedi’u hen sefydlu a rhai sy’n dod i’r amlwg. Nod y prosiect yw ysgogi trafodaeth ar draws cymunedau am y ffyrdd y mae’r celfyddydau yn parhau i hysbysu bywydau unigolion a chymunedau heddiw. Ar gyfer ail gyfnod hwn y prosiect, mae’r RCAC wedi comisiynu arddangosfeydd o waith newydd gan Artur Conka, Roma, a Billy Kerry, Sipsi Romani. Bydd enghreifftiau o waith y ddau artist yn cael eu harddangos yn Oriel Ceri Richards yn Nhaliesin yn ystod y symposiwm.

“Mae’r celfyddydau yn dod â mwynhad ac ysbrydoliaeth i’n bywydau beunyddiol. Mae cymryd rhan yn y celfyddydau boed fel unigolyn neu fel aelod o gymuned yn helpu i’n clymu ynghyd mewn dathliad o’n dynoliaeth gyffredin. Ond gall y celfyddydau hefyd ein helpu i ddeall beth sy’n nodweddiadol ac yn bwysig ei ddiogelu yn y gwahaniaethau sy’n diffinio pob un ohonom. Mae’r celfyddydau yn ein helpu i archwilio a mynegi’r pethau cyffredin rhyngom a’n lle yn y byd. Mae cymdeithas sydd yn deg ei meddwl ac yn oddefgar yn gwerthfawrogi ac yn parchu anghenion, diddordebau a chreadigrwydd pawb. Mae’n gymdeithas sy’n ddiamynedd at anfantais, sy’n croesawu cydraddoldeb ac yn dathlu amrywiaeth. Rydym am i’r celfyddydau yng Nghymru gynnwys pawb. Gwyddem y bydd hyn yn gwneud y celfyddydau yng Nghymru yn fwy bywiog, yn fwy cyffrous ac yn fwy perthnasol. Rydym yn ymestyn croeso cynnes i’r cyfraniad y bydd yr ail Symposiwm Cenedlaethol Celfyddydau a Diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ei wneud i’r ddadl honno”. Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Rwyf wrth fy modd bod Taliesin yn cynnal symposiwm 2017 ac yn helpu i chwalu’r anwybodaeth a’r rhagfarn sy’n parhau o ran cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Unwaith eto, mae artistiaid ar flaen y gad o ran chwalu stereoteipiau a dod â goleuni a dealltwriaeth i’r hyn sy’n parhau i fod yn broblem ddifrifol yn ein cymdeithas” – Sybil Crouch, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, Canolfan y Celfyddydau Taliesin

‘Fel cynrychiolydd o brosiect rhyngwladol sydd ei hun yn ceisio chwalu rhagfarn trwy hyrwyddo diwylliant a’r celfyddydau, rydym yn argyhoeddedig y bydd Gypsy Maker 2 yn chwarae rhan bwysig o ran adnabod a gwerthfawrogi diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr – sef diwylliant sydd wedi bodoli ers canrifoedd, sydd yn dra bywiog ac amrywiol hyd heddiw.’ Isabel Raabe a Franziska Sauerbrey, Anogwyr a Chyfarwyddwyr y Prosiect RomArchive: Digital Archive of the Roma.

Disgwylir y bydd y symposiwm hanner diwrnod a’r sioe arddangos cyffrous hyn yn ennyn diddordeb felly archebwch eich lle yn gynnar trwy ysgrifennu at y Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani (RCAC): isaacblake@romaniarts.co.uk