Think you know what a Gypsy, Roma and Traveller are?

Wednesday 24th June 2015

St David’s Hall, Cardiff 10.30 – 4.00

Challenge your opinions, indulge in the culture and share in the activities that demonstrate a rich cultural heritage within Wales.

It’s free to adults and children alike from all backgrounds and communities!

There will be films, live performances, art, and exhibitions that showcase the cultural diversity of the Gypsy, Roma and Traveller community in Wales. You will be astonished and engaged by the amazing skills, heritage, stories, history, art, theatre and dance that will be displayed throughout the day.

Whatever your background, ability, perception or age, come and join this ever growing annual event that provide fun for all the family.

Isaac Blake Director of the Romani Cultural and Arts Company says “Young people are the best agents of change and it is a pleasure to be able to present to the wider public the colour and passion of these very special children.’

Petr Torak, the Vice-Chair of Gypsy Roma Traveller Police Association (GRTPA) says “The Police service in the UK has got an important role to play in strengthening community cohesion and the relationship between the GRT communities and the Police.”

Julie Morgan AM says “Gypsy, Roma and Traveller History Month is a great opportunity to strengthen a sense of cultural pride. I am very proud to be involved in the celebration of this diverse and vibrant community in Wales, and I am very much looking forward to seeing the performances and artwork that have been produced.”

Organisers – The Romani Cultural & Arts Company look forward to seeing you there!

Don’t miss out.

Check out romaniarts.co.uk for more information.

24th June 2015 GRT HM Programme

Press coverage notably from (St David’s Hall, National Association of Teachers of Travellers+Other Professionals)

The Romani Cultural and Arts Company is not responsible for the content of external Internet sites.

————————————————————

Ydych chi’n gwybod beth yw Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Dydd Mercher 24 Mehefin 2015

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd 10.30 – 4.00

Meddyliwch, ymchwiliwch i’r diwylliant a phrofwch y gweithgareddau sy’n nodweddiadol o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.

Am ddim i oedolion a phlant o bob cefndir a chymuned!

Caiff amrywiaeth ddiwylliannol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru ei harddangos drwy ffilmiau, perfformiadau byw, celf ac arddangosfeydd. Cewch eich syfrdanu a’ch cyfareddu gan y sgiliau, y dreftadaeth, y straeon, yr hanes, y gelf, y theatr a’r ddawns hynod a fydd yn digwydd drwy’r dydd.

Beth bynnag fo’ch cefndir, eich gallu, eich barn neu’ch oedran, dewch i ymuno yn y digwyddiad hwn i’r teulu cyfan sy’n tyfu bob blwyddyn.

Dywedodd Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Cwmni Celf a Diwylliant Romani, “Does neb yn sbarduno newid gystal â phobl ifanc, ac mae’n bleser cael cyflwyno brwdfrydedd y plant arbennig iawn hyn i’r cyhoedd ehangach.”

Dywedodd Petr Torak, Is-Gadeirydd Cymdeithas Heddlu’r Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRTPA), “Mae gan yr Heddlu rôl bwysig i’w chwarae yn y DU o ran cryfhau cydlyniad cymunedol a’r berthynas rhwng cymunedau GRT a’r Heddlu.”

Dywed Julie Morgan AC: “Mae’r Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gyfle gwych i gryfhau ymdeimlad o falchder diwylliannol. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r dathliadau hyn o gymuned amrywiol a bywiog yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld y perfformiadau a’r gwaith celf sydd wedi cael eu paratoi.”

Mae’r trefnwyr, y Cwmni Celf a Diwylliant Romani, yn edrych ymlaen at eich gweld!

Dewch yn llu!

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i romaniarts.co.uk.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.